Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Ebrill 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6314
------
Dechreuodd yr eitem am 13.41
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Dechreuodd y Llywydd y cyfarfod drwy wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfeirio at y sylwadau a wnaeth oddi ar gamera tuag at gyd-Aelod yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Dywedodd y Gweinidog nad oedd wedi bwriadu i'w sylwadau gael eu darlledu a'i fod, yn y cyfamser, wedi ymddiheuro i'r Aelod dros Ganol Caerdydd, sydd wedi derbyn ei ymddiheuriad. Tynnodd y Gweinidog ei sylwadau yn ôl ac ymddiheurodd i'r Llywydd ac i'r Cynulliad.
Cyfeiriodd y Llywydd hefyd at yr ail bwynt o drefn a godwyd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf ynghylch amserlennu Cwestiynau Llafar a Rheol Sefydlog 34.18, gan nodi bod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai barhau i ddatgymhwyso Rheol Sefydlog 12.56 am y tro. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd cwestiynau amserol yn cael eu hailgyflwyno'r wythnos nesaf ac ailadroddodd y byddai'r Pwyllgor Busnes yn parhau i adolygu trefn busnes yn wythnosol. Diolchodd y Llywydd i'r Aelodau am eu dealltwriaeth, gan alluogi'r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau yn yr amseroedd digynsail hyn.
Dechreuodd yr eitem am 13.44
Dechreuodd yr eitem am 13.44
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Am 15.51 gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud.
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Derbyniwyd y cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd a'u bod yn destun un bleidlais.
Dechreuodd yr eitem am 17.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynigion o dan eitemau 6 a 7 tan y Cyfnod Pleidleisio
NDM7319 – Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1.Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020.
NDM7320 – Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020.
Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidlais heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.
Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr.
Gan fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 ar gyfer pleidleisio, cafwyd un bleidlais fel a ganlyn.
Ar ran y Grŵp Llafur a'r llywodraeth – Vikki Howells (30 pleidlais)
Ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru – Angela Burns (11 pleidlais)
Ar ran Plaid Cymru – Sian Gwenllian (9 pleidlais)
Ar ran Plaid Brexit – Mark Reckless (4 pleidlais)
Gareth Bennett
Neil Hamilton
Neil McEvoy
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
6 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.17
Wrth ddod â’r trafodion i ben, nododd y Llywydd mai hwn oedd cyfarfod rhif 1,378, a chyfarfod olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac y byddwn, yr wythnos nesaf, yn ailymgynnull fel Senedd Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.20
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 6 Mai 2020